fbpx

Diwrnod Meddiannu Cymru

Y Diwrnod Meddiannu yw’r diwrnod pan mae amgueddfeydd, orielau, cartrefi hanesyddol, archifau a safleoedd treftadaeth yn gwahodd pobl ifanc i mewn i wneud swyddi a wneir fel arfer gan oedolion.

Ers i’r Diwrnod Meddiannu gychwyn yn 2010, mae bron i 40,000 o blant a phobl ifanc wedi cymryd rhan.

Cychwynwyd y Diwrnod Meddiannu i helpu sefydliadau hanesyddol i rymuso pobl ifanc a rhoi rolau pwysig iddyn nhw ar eu safleoedd. Erbyn hyn, mae mwy na 5,000 o bobl, o blant bach i bobl ifanc 25 oed, yn cymryd rhan bob blwyddyn.

Mae llawer o gyfranogwyr wedi mynd ymlaen i wneud mwy ag amgueddfeydd o ganlyniad i hyn.

Sut all plant a phobl ifanc feddiannu fy sefydliad i?

“Dw i ddim yn meddwl bod amgueddfeydd yn hen bethau diflas erbyn hyn.”Cyfranogwr yn y Diwrnod Meddiannu

Mae’r Diwrnod Meddiannu’n bodoli ymhob maint, siâp a llun, o feddiant gan un plentyn i feddiant gan gannoedd o blant. Dros y blynyddoedd, mae pobl ifanc wedi:

  • meddiannu swyddi mewn amgueddfeydd a dod yn arweinwyr teithiau, gofalwyr, cynorthwywyr siop, glanhawyr, croesawyr, derbynwyr, swyddogion y wasg ac hyd yn oed weithwyr cadwraeth
  • cyd-ofalu am arddangosfeydd a digwyddiadau, yn cynnwys gigiau hwyr y nos, cysgu dros nos neu berfformiadau
  • darparu sesiynau dysgu i grwpiau eraill o blant
  • creu nwyddau marsiandïaeth i’r siop
  • rhoi eu safbwynt a’u hadborth ar wefannau amgueddfeydd, digwyddiadau ac esboniadau
  • meddiannu sianelau cyfryngau cymdeithasol amgueddfeydd (Gallwch ganfod rhagor am gynnal sesiynau meddiannu’r cyfryngau cymdeithasol ar ein tudalen Diwrnod Meddiannu Digidol).

Pryd mae’r Diwrnod Meddiannu?

Bydd ein Diwrnod Meddiannu eleni ar:

Ddydd Gwener 22 Tachwedd 2024

Thema genedlaethol ein Diwrnod Meddiannu yn 2024 yw Gyrfaoedd. Rydym yn dod â’r Diwrnod Meddiannu yn ôl at ei wreiddiau ac yn dangos sut y gall gefnogi pobl ifanc o bob oed i ddysgu am wahanol swyddi mewn amgueddfeydd a datblygu eu sgiliau, o fewn y sector a thu hwnt.

Mae ein thema genedlaethol yn opsiynol ac mae croeso i chi gymryd rhan ar unrhyw thema sy’n berthnasol i’ch sefydliad.

Rydym yn eich annog i gymryd rhan ar 22 Tachwedd er mwyn cael y budd mwyaf o fod yn rhan o ddigwyddiad cenedlaethol. Ond, gallwch gynnal Diwrnod Meddiannu ar ba thema bynnag ac ar ba amser bynnag yn y flwyddyn sy’n gweithio i’ch sefydliad chi. Cofiwch gofrestru eich diwrnod ar ein gwefan i roi gwybod i ni.

Pam ddylwn i gymryd rhan?

“Dim ond darn bach o rywbeth llawer mwy ydy’r Diwrnod Meddiannu. Rydym yn ceisio treiddio’n ddyfnach a chynnal prosiectau tymor hirach; mae’r Diwrnod Meddiannu’n ffordd wych o gychwyn y newid diwylliannol yma.”Amgueddfa

I sefydliadau treftadaeth, mae’r Diwrnod Meddiannu’n gyfle gwych i gysylltu â gwahanol grwpiau o blant a phobl ifanc, denu cynulleidfaoedd newydd a threialu ffyrdd newydd o weithio. Mae’n galluogi i holl staff yr amgueddfa weithio gyda’u hymwelwyr ieuengaf. Mae’r Diwrnod Meddiannu’n gyfle gwych i weiddi am eich gwaith a chael sylw’r cyfryngau, sylw yn y wasg a chyrraedd mwy o bobl yn y cyfryngau cymdeithasol drwy gymryd rhan mewn digwyddiad cenedlaethol.

I blant a phobl ifanc, mae’r Diwrnod Meddiannu’n gyfle unigryw i ddysgu tu allan i’r dosbarth er mwyn datblygu sgiliau newydd a chanfod sut beth yw gweithio ‘yn y cefn’ mewn amgueddfa. Gwyddom ei fod yn helpu i roi hwb i hyder pobl ifanc a’i fod yn rhoi teimlad o berchnogaeth iddynt dros eu treftadaeth a’u hamgueddfa leol.

Allwn i wneud cais am arian i gefnogi fy Niwrnod Meddiannu?

Mae nifer o sefydliadau a allai ddarparu arian ar gyfer eich digwyddiad. Gallwch ganfod rhagor am wneud cais drwy glicio’r dolenni isod:

Sut ydw i’n cymryd rhan?

Cofrestrwch eich Diwrnod Meddiannu

Ydych chi’n bwriadu cymryd rhan yn y Diwrnod Meddiannu eleni, ond heb gadarnhau eich cynlluniau’n iawn eto? Mynegwch eich diddordeb yn ein ffurflen fer isod.

Ydych chi wedi gwneud eich cynlluniau ar gyfer eich Diwrnod Meddiannu? Cofrestrwch eich digwyddiad yn llawn i gael eich ychwanegu at ein map ar-lein, i dderbyn defnyddiau cefnogi gennym ac i gael eich ystyried ar gyfer cyfleoedd tynnu lluniau ac yn y wasg.