Yr hyn a wnawn
Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth yn y Gymraeg am ein prif raglenni i gyd. Ni allwn gynnig ein gwefan lawn yn y Gymraeg eto, ond mae opsiynau cyfieithu ar y tudalennau hynny sydd ddim ar gael ar hyn o bryd.
Y Wobr i Amgueddfeydd sy’n Croesawu Teuluoedd
Mae ein Gwobr i Amgueddfeydd sy’n Croesawu Teuluoedd yn dathlu amgueddfeydd, orielau ac atyniadau treftadaeth sy’n mynd gam ymhellach i gynnig profiadau gwych i deuluoedd.
Maniffesto
Darllenwch am ein Maniffesto Kids in Museums: beth ydyw, sut mae’n ddefnyddiol i’ch sefydliad a sut i gofrestru.
Diwrnod Meddiannu Cymru
Y Diwrnod Meddiannu yw’r diwrnod pan mae amgueddfeydd, orielau, cartrefi hanesyddol, archifau a safleoedd treftadaeth yn gwahodd pobl ifanc i mewn i wneud swyddi a wneir fel arfer gan oedolion.
Y Diwrnod Meddiannu Digidol
Mae’r Diwrnod Meddiannu Digidol yn rhoi cyfle i bobl ifanc gael clust i’w lleisiau drwy reoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol amgueddfeydd am ddiwrnod.
Gigiau mewn Amgueddfeydd
Mae Gigiau mewn Amgueddfeydd yn rhaglen gyffrous sy’n cefnogi amgueddfeydd a llyfrgelloedd i gynnal digwyddiadau cerddoriaeth fyw a denu cynulleidfaoedd ifanc newydd.
Adnoddau
Yma mae ein holl adnoddau dwyieithog sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg.