fbpx

Croesawu eich Ymddiriedolwyr Ifanc Cyntaf

Cofrestrwch ar gyfer ein rhaglen am ddim i’ch cefnogi i benodi Ymddiriedolwyr Ifanc yn eich amgueddfa, oriel neu sefydliad treftadaeth.

Mae’r rhaglen hyfforddi a rhwydweithio hon i staff ac ymddiriedolwyr o sefydliadau treftadaeth sydd â diddordeb mewn penodi pobl ifanc 18-30 oed i’w byrddau ac i bobl ifanc sydd â diddordeb mewn dod yn ymddiriedolwyr amgueddfeydd.

Rhedir y rhaglen hon gan Kids in Museums mewn partneriaeth ag Upstart Projects. Cefnogir y rhaglen gydag arian gan Arts Council England a Llywodraeth Cymru.

Pam ydym ni’n cynnal y rhaglen hon?

Mae pob un o’n sgyrsiau diweddar gyda phobl ifanc yn ein Huwchgynhadledd Ieuenctid Amgueddfeydd ac mewn mannau eraill wedi dweud yr un pethau wrthym. Dydy pobl ifanc ddim yn teimlo bod croeso iddyn nhw mewn amgueddfeydd na bod amgueddfeydd yn eu cynrychioli nhw. Mae gwaith ymchwil yn cefnogi hynny. Yn 2020, canfu adroddiad gan Morris Hargreaves Macintyre mai dim ond 12% o bobl ifanc oedd yn teimlo bod amgueddfeydd cenedlaethol yn Llundain yn dweud straeon oedd yn berthnasol iddyn nhw.

Er hynny, dydy’r bobl ifanc yr ydym yn siarad â nhw ddim eisiau troi eu cefnau ar amgueddfeydd, maen nhw’n uchelgeisiol am newidiadau ac yn optimistiaidd y gallant, o gael mwy o rym yn y broses o wneud penderfyniadau, helpu amgueddfeydd i newid a dod yn fannau gwell i ymweld â nhw a chyfranogi ynddynt ac yn lleoedd sy’n gweithio’n well iddyn nhw a’u cymheiriaid.

Er bod gwelliannau wedi digwydd, mae data a geir ar draws y sector celfyddydau’n dangos nad ydy Byrddau sefydliadau sy’n gweithio mewn diwylliant a threftadaeth mor amrywiol ag y gallant fod. Nid yw pobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, pobl gydag anableddau a phobl o’r dosbarth gweithiol wedi eu cynrychioli’n ddigonol.

Nid yw pobl ifanc 18-30 oed wedi eu cynrychioli’n ddigonol chwaith. Mae nifer o amgueddfeydd i’w cael o hyd nad ydynt yn cynnwys pobl ifanc yn lefelau uchaf eu prosesau gwneud penderfyniadau. Dydyn nhw ddim yn rhoi llais iddyn nhw yng nghyfeiriad eu strategaeth ar gyfer y dyfodol na sut mae eu cyllidebau’n cael eu gwario.

Nid oes data ar gael sy’n ymwneud yn benodol â byrddau amgueddfeydd, ond mae data Arts Council England am sefydliadau diwylliannol a ariennir yn rheolaidd o 2020-21 yn dangos bod 91% o Ymddiriedolwyr dros 34 oed a bod tua eu hanner dros 50. Yn yr un modd, mae data gan Gyngor Celfyddydau Cymru’n dangos mai dim ond 3.7% o aelodau’r bwrdd yn y sefydliadau y maent yn eu hariannu sy’n bobl iau.

Y newyddion da yw bod ymchwil yn dangos bod cael amrywiaeth o bobl o bob math yn gwella’r broses o wneud penderfyniadau ac yn gwneud byrddau yn fwy cydweithredol. Fodd bynnag, nid yw mor syml â phenodi Ymddiriedolwyr amrywiol i wella cynrychiolaeth, mae’n rhaid i’r bwrdd cyfan fod yn ymroddedig i newid ei ddiwylliant er mwyn bod yn fwy cynhwysol yn y ffordd y mae’n gweithio.

Bydd y rhaglen hon yn cefnogi amgueddfeydd i baratoi i greu diwylliant bwrdd cynhwysol i gefnogi cyfranogaeth pobl ifanc fel Ymddiriedolwyr. Byddwn yn gweithio gydag Ymddiriedolwyr i ddatblygu proses recriwtio gynhwysol i benodi Ymddiredolwyr Ifanc newydd. Unwaith y bydd y broses benodi’n gyflawn, byddwn yn cefnogi’r Ymddiriedolwyr Ifanc newydd drwy eu chwe mis cyntaf yn y swydd, yn ogystal â darparu cymorth parhaus i Ymddiriedolwyr i sicrhau bod gwaith eu bwrdd yn gynhwysol i’w holl aelodau bob amser.

Rydym yn gobeithio mai dyma fydd dechrau’r newid yn y sector amgueddfeydd, a fydd yn dod â safbwyntiau newydd i’r prosesau gwneud penderfyniadau ac yn sicrhau bod anghenion pobl ifanc fel ymwelwyr ac aelodau staff wedi eu cynrychioli yng nghynlluniau’r amgueddfeydd ar gyfer y dyfodol.

Amlinelliad o’r rhaglen

Mae’r rhaglen yn cynnwys ffrydiau o gymorth i Ymddiriedolwyr, i amgueddfeydd ac i bobl ifanc sydd â diddordeb mewn dod yn Ymddiriedolwyr Ifanc, ac yn dod yn Ymddiriedolwyr Ifanc, yn ystod y rhaglen. Bydd yn rhedeg o fis Ebrill hyd fis Mawrth 2025.

I amgueddfeydd ac ymddiriedolwyr byddwn yn cynnig:

  • Hyfforddiant ar-lein am roi llais i bobl ifanc mewn prosesau gwneud penderfyniadau yn eich sefydliad chi.
  • Cefnogaeth i gynllunio a gweithredu proses benodi gynhwysol i Ymddiriedolwyr Ifanc ar gyfer eich amgueddfa chi. Bydd hyn yn cynnwys paratoi disgrifiadau rôl, hysbysebu rolau a chyfweld.
  • Sesiynau galw heibio i rwydweithio a rhannu, gydag ymddiriedolwyr a staff eraill sy’n cymryd rhan yn y rhaglen.
  • Digwyddiad dathlu a rhannu ar ddiwedd y rhaglen.

I bobl ifanc sy’n cael eu penodi’n Ymddiriedolwyr Ifanc:

  • Hyfforddiant ar-lein am gael llais fel Ymddiriedolwr Ifanc.
  • Sesiynau cymorth ar-lein misol yn ystod chwe mis cyntaf eu rôl fel Ymddiriedolwr Ifanc.
  • Opsiwn ar gyfer mentora 1:1 ychwanegol (efallai y bydd cost am hyn).
  • Digwyddiad dathlu a rhannu ar ddiwedd y rhaglen.

Ar ddiwedd y rhaglen, byddwn yn cynnwys pobl ifanc ac ymddiriedolwyr mewn proses werthuso i’n helpu i ddatblygu’r rhaglen.

Hyfforddwyr ac arweinwyr y rhaglen

  • Upstart Projects

    Mae Upstart Projects yn elusen genedlaethol sy’n hyrwyddo arweiniad a llais ieuenctid. Cafodd ei ffurfio yn 2014 i ddatblygu sgiliau pobl ifanc ymhellach yn y celfyddydau a’r cyfryngau ac i symud datblygiad y rhaglen Arts Awards yn ei flaen yn genedlaethol. Mae Upstart yn rhedeg y platfform voicemag.uk a nifer o brosiectau ymchwil, arweiniad ac ymgysylltiad ar draws y sector diwylliannol. Mae Upstart wedi hyfforddi mwy na 300 o sefydliadau mewn llais ieuenctid ac mae’r rhaglen hon yn cael ei harwain gan Emrys Green, y Pennaeth Datblygu yn Upstart. Mae ganddo fwy na 15 mlynedd o brofiad mewn llais ieuenctid a bron cyhyd mewn llywodraethu.  Emrys yw Cadeirydd presennol y corff proffesiynol rhyngwladol, y Sefydliad Arweinyddiaeth, ac mae’n gymrawd i Sefydliad y Cyfarwyddwyr, lle mae hefyd yn llysgennad i gyfarwyddwyr ifanc. Mae wedi gwasanaethu ar amrywiol fyrddau a phwyllgorau cenedlaethol ac mae wedi cefnogi pobl ifanc i ddylanwadu ar sefydliadau a pholisi lleol a chenedlaethol.

  • Alison Bowyer, Cyfarwyddwr Gweithredol yn Kids in Museums

    Mae Alison wedi gweithio yn y sector diwylliannol ers tua 20 mlynedd a chyn hynny roedd ganddi rolau yn LAMDA, Cerddorfa Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr, Canolfan Southbank a’r Academy of Ancient Music. Mae hi wedi bod yn Gyfarwyddwyr Gweithredol Kids in Museums ers 2016. Yn ystod yr amser hwnnw mae’r elusen wedi sicrhau arian rheolaidd gan Arts Council England ac wedi derbyn Gwobr Amgueddfa a Threftadaeth am y Sefydliad sy’n Cefnogi’r Sector Orau. Mae Alison hefyd yn ymroddedig i sicrhau bod pobl ifanc yn cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau yn Kids in Museums. Yn ystod ei hamser fel Cyfarwyddwr Gweithredol, mae hi wedi cyflwyno Ymddiriedolwyr Ifanc a Phanel Ieuenctid i’r sefydliad.

Dyddiadau’r rhaglenni

  • Dyddiadau i gyfranogwyr yn yr amgueddfa (Ebrill 2024 - Mawrth 2025)
    • Hyfforddiant ar-lein – llais yr ifanc i gyfranogwyr mewn amgueddfeydd
      19 Ebrill, 10am-1pm
    • Sesiynau paratoi
      Ebrill-Awst
      Dwy sesiwn grŵp cyfan rhithiol ac un sesiwn cymorth 1:1 rhithiol (y dyddiadau i gael eu cytuno gyda chyfranogwyr yr amgueddfeydd) i’ch helpu i baratoi ar gyfer y cyfnod penodi, yn cynnwys cyngor am y prosesau penodi ac ymgeisio cynhwysol.
    • Cyfnod penodi
      1 Medi – 31 Hydref
    • Sesiynau cymorth i gyfranogwyr
      15 Tachwedd 2024, 10am-12pm
      31 Ionawr 2025, 10am-12pm
      Mae’r sesiynau galw heibio hyn i gyfranogwyr mewn amgueddfeydd edrych i weld sut maen nhw’n dod ymlaen.
    • Sesiwn rhannu i gyfranogwyr mewn amgueddfeydd ac Ymddiriedolwyr Ifanc
      26 Mawrth 2025, 10am-12pm
  • Dyddiadau i bobl ifanc (Tachwedd 2024 – Mawrth 2025)
    • Bod â Llais fel Ymddiriedolwr
      18 a 19 Tachwedd 2024, 6-7.30pm
      Cwrs tair awr ar-lein i Ymddiriedolwyr Ifanc newydd (awr a hanner dros ddwy noson).
    • Sesiynau cymorth i Ymddiriedolwyr Ifanc
      Rhagfyr 2024-Mawrth 2025
      Bydd y chwe sesiwn hyn yn digwydd cyn ac ar ôl cyfarfodydd y Bwrdd. Byddant yn cynnwys arweiniad, cyswllt â’r sefydliad os oes unrhyw bryderon neu awgrymiadau am welliannau, a chyfle ar-lein i gymheiriaid drafod a helpu ei gilydd.
    • Sesiynau cymorth 1:1 rhithiol (i Ymddiriedolwyr Ifanc mewn Amgueddfeydd yng Nghymru yn unig)
      Ionawr – Chwefror 2025

      Tair sesiwn 45 munud.
    • Sesiwn rhannu i gyfranogwyr mewn amgueddfeydd ac Ymddiriedolwyr Ifanc 26 Mawrth 2025, 10am-12pm

Y broses ddethol

Mae gennym hyd at chwe lle ar gael yn rhad ac am ddim i amgueddfeydd yn Lloegr a chwe lle am ddim ar gael i amgueddfeydd yng Nghymru.

Mae lle ar y garfan yn cynnwys dau berson o bob amgueddfa. Rydym eisiau i un o’r bobl hynny fod yn Ymddiriedolwr. Gallai’r person arall fod yn Ymddiriedolwr arall neu’n aelod o staff sy’n gweithio gyda phobl ifanc. Mae angen i chi gael cefnogaeth Prif Weithredwr eich sefydliad a Chadeirydd yr Ymddiriedolwyr er mwyn cymryd rhan yn y rhaglen. Gobeithio y bydd hyn yn gwella atebolrwydd ac yn sicrhau bod newidiadau a weithredir o ganlyniad i’r rhaglen yn parhau wedi iddi ddod i ben.

Os byddwn yn derbyn mwy na chwe chais gan amgueddfeydd yn y naill wlad neu’r llall, byddwn yn cwrdd yn anffurfiol â’r holl ymgeiswyr cyn gwneud ein penderfyniadau dethol terfynol. Byddwn yn darparu cwestiynau yr ydym eisiau eu trafod cyn y cyfarfodydd hyn.

Byddwn yn cysylltu â’r ymgeiswyr i gyd ynghylch y camau nesaf fydd yn digwydd gyda’u cais erbyn Dydd Gwener 14 Mawrth.

Os ydych wedi eich seilio yng Ngogledd Iwerddon neu’r Alban, efallai y byddwn yn gallu eich ystyried chi os na fyddwn yn derbyn digon o geisiadau gan Amgueddfeydd yng Nghymru a Lloegr. Ond, byddai’n rhaid i chi dalu i gymryd rhan. Cysylltwch â ni mewn e-bost i gael rhagor o wybodaeth: [email protected]

Sut i wneud cais

Mae’r broses ymgeisio’n agored yn awr.

I wneud cais i fod yn rhan o’r rhaglen Croesawu eich Ymddiriedolwyr Ifanc cyntaf, lawrlwythwch a llenwch ein Ffurflen Gais (lawrlwytho Dogfen Word).

Dylech e-bostio’r ffurflenni cyflawn atom erbyn 5pm ar 29 Chwefror 2024: [email protected]

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gymryd rhan, anfonwch e-bost atom: [email protected]