fbpx

Archwiliad o Amgueddfeydd sy’n Croesawu Teuluoedd i Amgueddfeydd yng Nghymru

Rydym yn gwahodd amgueddfeydd yng Nghymru i wneud cais am Archwiliad Amgueddfa sy’n Croesawu Teuluoedd gan Kids in Museums sydd wedi ei ariannu’n llawn gyda chefnogaeth hael gan Lywodraeth Cymru.

Mae Kids in Museums yn gwahodd amgueddfeydd yng Nghymru i wneud cais am Archwiliad wedi ei ariannu’n llawn o Amgueddfeydd sy’n Croesawu Teuluoedd, tair awr o fentora gydag un o’n hymgynghorwyr profiadol a grant o £500 i roi gwelliannau ar waith yn eich darpariaeth i deuluoedd. Cefnogir hyn yn hael gan Lywodraeth Cymru.

Mae hyd at bedwar archwiliad ar gael. Gallwn wneud yr archwiliadau a’r mentora drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg a bydd angen defnyddio’r amser mentora a’r grant erbyn diwedd Chwefror 2025.

Gair am Archwiliadau Kids in Museum o Amgueddfeydd sy’n Croesawu Teuluoedd, mentora a chyllid

Mae Archwiliad gan Kids in Museums o Amgueddfeydd sy’n Croesawu Teuluoedd yn gyfrwng syml, ymarferol a chost-effeithiol i wneud eich amgueddfa’n fwy croesawgar i blant a theuluoedd.

Mae’r archwiliad wedi ei seilio ar Faniffesto Kids in Museums, un o’n mentrau mwyaf pwerus a hirsefydlog. Mae’r Maniffesto wedi ei seilio’n gyfan gwbl ar adborth gan deuluoedd, plant a phobl ifanc am eu profiadau o ymweld ag amgueddfeydd.

“Cofrestrais ar gyfer yr archwiliad gan obeithio cael ychydig bach o adborth am yr amgueddfa a, gobeithio, ychydig o arian i greu gweithgaredd neu ddau. Yr hyn a gefais oedd gwell dealltwriaeth o’r ffordd y mae teuluoedd yn defnyddio amgueddfeydd, beth maen nhw’n hoffi ei weld mewn amgueddfeydd, a rhai syniadau gwych am newidiadau hawdd a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr. Mae wedi bod yn brofiad gwych a byddwn yn ei argymell yn fawr i unrhyw amgueddfa neu safle.” Hollie Gaze, Swyddog Gwasanaethau Ymwelwyr yn Amgueddfa Abertawe

Bydd Archwiliad o Amgueddfeydd sy’n Croesawu Teuluoedd yn gwerthuso ymweliad â’ch amgueddfa yn erbyn chwe phwynt y Maniffesto er mwyn canfod pa mor effeithiol yw eich croeso i blant a theuluoedd. Mae ymgynghorydd profiadol o Kids in Museums yn arolygu popeth, o’r caffi a’r ddesg docynnau, i’ch dehongliadau, gofodau neu arddangosiadau ar gyfer plant a theuluoedd.

Yn dilyn yr ymweliad, bydd yr ymgynghorydd yn cynhyrchu adroddiad darluniadol sy’n dangos y meysydd o arfer da ar hyn o bryd ac yn cynnwys cynllun gweithredu cost effeithiol syml am y meysydd i’w gwella. Yn ogystal â chynnig canllaw ymarferol i wneud eich amgueddfa’n fwy croesawgar i deuluoedd, bydd yr adroddiad yn gyfrwng eirioli pwerus ar gyfer cynnwys plant a theuluoedd ar draws eich sefydliad.

Unwaith y bydd yr adroddiad wedi ei gyflawni, bydd gan bob amgueddfa hyd at dair awr o amser mentora gyda’r ymgynghorydd a wnaeth yr archwiliad. Bydd modd defnyddio’r amser hwn mewn cytundeb â’r mentor rhwng Medi 2024 a Chwefror 2025.

Bydd pob amgueddfa’n derbyn £500 o arian grant i wneud gwelliannau i’w darpariaeth i deuluoedd ar sail yr archwiliad a’r mentora. Gallwch ddefnyddio hwn i brynu deunyddiau, offer neu adnoddau a bydd angen ei wario erbyn Chwefror 2025.

Mae’r rhaglen hon wedi ei hariannu’n hael gan Lywodraeth Cymru.

Llinell Amser

  • Bydd yr Archwiliad o Amgueddfeydd sy’n Croesawu Teuluoedd yn digwydd rhwng Gorffennaf a Medi 2024
  • Daw’r adroddiad terfynol erbyn mis Hydref 2024
  • Tair awr o amser mentora gyda’r ymgynghorydd y mae’n rhaid eu defnyddio erbyn Chwefror 2025
  • £500 o gyllid i gael ei wario erbyn Chwefror 2025.

Yr Amodau ar gyfer Cymryd Rhan

Rhaid i’r amgueddfeydd fod yng Nghymru. Nid yw’r amgueddfeydd oedd yn rhan o Archwiliadau Amgueddfeudd sy’n Croesawu Teuluoedd wedi eu hariannu gan Lywodraeth Cymru yn 2021, 2022 a 2023 yn gymwys i wneud cais yn 2024. Os oes gan eich amgueddfa fwy nag un safle, dim ond un safle y gallwn ei archwilio fel arfer.

Rhaid i amgueddfeydd ymrwymo i:

  • ddarparu person cyswllt penodol ar gyfer y prosiect
  • gymryd rhan yn weithredol yn y prosiect, yn cynnwys cysylltu’n amserol a phrydlon gyda phartneriaid y prosiect, a chael caniatâd a chymorth eu huwch dîm rheoli.
  • gymryd rhan mewn gwerthusiad o’r prosiect.

Gwneud cais

Mae’r broses ymgeisio ar agor yn awr.

I wneud cais am Archwiliad o Amgueddfeydd sy’n Croesawu Teuluoedd, lawrlwythwch a llenwch ein Ffurflen Gais (lawrlwytho Dogfen Word) a chadarnhau eich bod yn deall y gofynion cymhwysedd ar gyfer derbyn archwiliad.

Dylech anfon y ffurflenni cyflawn atom ar e-bost erbyn 5pm Dydd Mawrth 4 Mehefin 2024 fan bellaf: [email protected]

Byddwn yn cysylltu â’r ymgeiswyr i gyd i roi gwybod iddynt am ganlyniad eu cais erbyn diwedd y diwrnod Ddydd Gwener 21 Mehefin 2024.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gymryd rhan, anfonwch e-bost atom ar: [email protected]