The Economy Secretary, said: “I’ve had a great time seeing Takeover Day in action at the Egypt Centre. I didn’t know how to wrap a mummy before the kids showed me! Being taken around a museum by young people opens your eyes to the collections and their stories in new and exciting ways. Takeover Day is just the first day of many in museums where young people are at the heart of activity which is a great way to engage young people’s interest in our culture and history, and to empower them to develop their skills and confidence. Following this experience, I’m confident that more young people will feel a connection with museums, heritage and the arts – not only as visitors, but as participants and even as a future career option. Takeover Day opens their eyes as well as ours.”

Almost 50 museums were run by over 1,000 children for Takeover Day, doing the jobs adults usually do. They were pest controllers, tour guides, curators, conservators, interpreters, front of house and worked in the café.

Follow on Twitter using #TakeoverDay.

Takeover Day is run by charity Kids in Museums and supported by the Welsh Government.

Cymerwyd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ken Skates, o amgylch arddangosfa ryfeddol y Ganolfan Eifftaidd, Abertawe gan y Gwirfoddolwyr Ifanc y ‘Niwbis’ ar y Diwrnod Meddiannu – y diwrnod blynyddol pan fydd plant yn rhedeg amgueddfeydd.

Meddai Ysgrifennydd yr Economi, “Cefais amser gwych yn gweld y Diwrnod Meddiannu ar waith yn y Ganolfan Eifftaidd. Doedd gen i ddim syniad sut i lapio mymi cyn i’r plant ddangos i mi! Mae mynd o amgylch amgueddfa gyda phobl ifanc yn agor eich llygaid i’r casgliadau a’u hanesion mewn ffordd newydd a chyffrous. Y Diwrnod Meddiannu yw’r cyntaf o ddiwrnodau lu mewn amgueddfeydd lle mae pobl ifanc wrth galon y gweithgareddau. Mae hon yn ffordd wych o ennyn diddordeb pobl ifanc yn ein diwylliant a’n hanes, ac o roi’r grym iddynt i ddatblygu eu sgiliau a’u hyder. Ar ôl y profiad yma, rwy’n hyderus y bydd mwy o bobl ifanc yn teimlo cysylltiad gydag amgueddfeydd, treftadaeth a’r celfyddydau – nid yn unig fel ymwelwyr, ond fel cyfranogwyr ac hyd yn oed fel opsiwn ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae’r Diwrnod Meddiannu’n agor eu llygaid hwythau’n ogystal â’n llygaid ninnau.”

Rhedwyd bron i 50 o amgueddfeydd gan fwy na 1000 o blant yn ystod y Diwrnod Meddiannu, oedd yn gwneud y swyddi y mae oedolion yn eu gwneud fel arfer. Roeddent yn dywyswyr, yn weithwyr rheoli plâu, yn geidwaid, yn guraduron, yn ddehonglwyr, yn staff blaen tŷ ac yn weithwyr yn y caffi.

Dilynwch y digwydd ar Twitter #TakeoverDay.

Mae’r Diwrnod Meddiannu’n cael ei gynnal gan yr elusen Kids in Museums a’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru.