fbpx

Y Wobr i Amgueddfeydd sy’n Croesawu Teuluoedd

Mae ein Gwobr i Amgueddfeydd sy’n Croesawu Teuluoedd yn dathlu amgueddfeydd, orielau ac atyniadau treftadaeth sy’n mynd gam ymhellach i gynnig profiadau gwych i deuluoedd.

Cafodd y wobr hon ei lansio yn ôl yn 2004 i gydnabod y safleoedd sydd fwyaf croesawgar, hwyliog a hygyrch i deuluoedd.

Rydym yn dyfarnu’r wobr yn flynyddol i un amgueddfa, oriel, cartref hanesyddol neu safle treftadaeth sydd wedi gwneud ymdrechion rhagorol i groesawu plant a theuluoedd ac ymateb i’w sylwadau. Dyma’r unig wobr i amgueddfeydd yn y DU sy’n cael ei beirniadu gan deuluoedd.

Enillydd cyffredinol y Wobr i Amgueddfeydd sy’n Croesawu Teuluoedd 2022 yw’r National Emergency Services Museum yn Sheffield Dyma oedd enillwyr categorïau’r wobr:

Gwyliwch y fideo isod i weld pam y mae amgueddfeydd yn ennill y Wobr i Amgueddfeydd sy’n Croesawu Teuluoedd.

Sut ydym yn enwebu ein hamgueddfa ni ar gyfer y wobr?

Gall unrhyw un wneud enwebiad ar gyfer y Wobr i Amgueddfeydd sy’n Croesawu Teuluoedd – plant, rhieni, gofalwyr, nain a thaid neu famgu a thadcu, modryb, ewythr, cefndryd – neu’r amgueddfeydd eu hunain.

Rydym yn croesawu enwebiadau ar gyfer amgueddfeydd o bob maint, o amgueddfeydd cenedlaethol gyda thimau o geidwaid, i orielau lleol bychan a redir gan wirfoddolwyr.

Os ydych yn gwneud cais ar ran eich amgueddfa, darllenwch ein canllawiau am y wobr i weld yr Amodau a Thelerau cyflawn cyn gwneud eich cais.

Mae gennym amrywiaeth o ddeunyddiau enwebu i’ch helpu i hyrwyddo enwebiadau gan eich ymwelwyr, yn cynnwys poster gyda chod QR, ffurflen adborth gan deuluoedd, graffigyn i’r cyfryngau cymdeithasol, a thempled o gopi i’r we.

Mae’r enwebiadau wedi cau erbyn hyn.

Beth yw categorïau’r wobr?

Y categorïau ar gyfer y Wobr i Amgueddfeydd sy’n Croesawu Teuluoedd yn 2023 yw:

  • Yr Amgueddfa Fach Orau: hyd at 100k o ymweliadau
  • Yr Amgueddfa Ganolig Orau: 100k-400k o ymweliadau
  • Yr Amgueddfa Fawr Orau: 400k+ o ymweliadau
  • Yr Amgueddfa Hygyrch Orau
  • Y Prosiect Gorau i’r Ifanc – Hinsawdd

Nod ein categori newydd, y Prosiect Gorau i’r Ifanc – Hinsawdd, yw cydnabod prosiectau arloesol ac ystyrlon sy’n ennyn diddordeb pobl ifanc ar bwnc cynaliadwyedd a’r argyfwng hinsawdd. Bydd yn agored i geisiadau gan amgueddfeydd yn unig a bydd panel o arbenigwyr yn beirniadu.

Mae’r categorïau maint hyn wedi eu seilio ar nifer yr ymwelwyr yn 2022. Peidiwch â phoeni os nad ydych yn siŵr beth yw’r categori maint pan fyddwch yn enwebu – byddwn yn gwneud yn siŵr bod yr amgueddfeydd i gyd yn y categori cywir cyn tynnu’r rhestr fer.

Sut bydd fy nghais yn cael ei feirniadu?

Mae ein panel arbenigol o bobl broffesiynol ym maes amgueddfeydd yn dewis o blith yr enwebiadau i greu rhestr fer. Mewn blynyddoedd blaenorol, rydym wedi derbyn cymaint â 860 o enwebiadau ar gyfer 80 o wahanol amgueddfeydd.

Bydd categori’r Prosiect Gorau i’r Ifanc – Hinsawdd yn cael ei feirniadu’n gyfan gwbl gan banel o arbenigwyr.

Mae teuluoedd yn ymweld â phob amgueddfa arall ar y rhestr fer yn ystod gwyliau’r haf, gan ymweld fel beirniaid dirgel. Maent yn asesu i ba raddau mae’r amgueddfeydd yn cyfateb â’n Maniffesto Kids in Museums. Bydd eu profiadau’n penderfynu pwy yw enillydd pob categori.

Yna bydd ein panel arbenigol yn dewis enillydd cyffredinol.

Dyddiadau allweddol

Bydd yr enwebiadau ar gyfer y Wobr i Amgueddfeydd sy’n Croesawu Teuluoedd 2023 yn agor ar Ddydd Mawrth 21 Mawrth ac yn cau am 5pm ar Ddydd Llun 5 Mehefin.

Bydd ein panel o arbenigwyr yn cwrdd ym mis Mehefin a bydd y rhestr fer yn cael ei chyhoeddi ar ddiwedd y mis.

Bydd enillwyr y Wobr i Amgueddfeydd sy’n Croesawu Teuluoedd 2023 yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo ym mis Hydref.

Canfod rhagor

Darllenwch ragor am y National Emergency Services Museum ac enillwyr blaenorol eraill y Wobr i Amgueddfeydd sy’n Croesawu Teuluoedd.

Os hoffech ganfod rhagor am y wobr, cofrestrwch i dderbyn ein taflen newyddion isod neu cysylltwch â ni ar: [email protected].

Cwestiynau Cyffredin