fbpx

Maniffesto

Darllenwch am ein Maniffesto Kids in Museums: beth ydyw, sut mae’n ddefnyddiol i’ch sefydliad a sut i gofrestru.

Beth yw Maniffesto Kids in Museums?

Mae ein Maniffesto yn gyfres o ganllawiau syml i amgueddfeydd, safleoedd treftadaeth a sefydliadau diwylliannol a grëwyd gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae’n adlewyrchu’r pethau sy’n gwneud amgueddfeydd yn fannau gwych i ymweld â nhw ym marn y bobl a’r plant hynny.

Crëwyd y Maniffesto cyntaf yn 2003 ac rydym wedi parhau i’w ddatblygu gydag adborth gan blant, pobl ifanc a theuluoedd am eu profiadau o dreftadaeth a thripiau diwylliannol.

Aethom ati i lansio’r fersiwn bresennol ym mis Mawrth 2022. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu i’n harolwg ac wedi helpu i siapio chwe phwynt y Maniffesto.

Erbyn heddiw, mae mwy na 1,000 o amgueddfeydd, safleoedd treftadaeth a sefydliadau diwylliannol wedi cofrestru i gefnogi ein Maniffesto. Gallwch gofrestru eich sefydliad chi ar waelod y dudalen hon i ddangos eich bod yn ymroddedig i ddilyn ein canllawiau a chroesawu ymwelwyr o bob oed.

Darllenwch Faniffesto Kids in Museums.

Sut fyddai hyn yn ddefnyddiol i fy sefydliad i?

Gallwch ddefnyddio’r Maniffesto i wneud pethau fel hyn:

  • I wneud awdit
    Gallwch ei ddefnyddio i asesu pa mor groesawgar a chynhwysol yw eich sefydliad i blant, pobl ifanc a theuluoedd.
  • I’ch helpu i gael achrediad y Cyngor Celfyddydau
    Mae’n berthnasol i’r gofynion hyn: ‘Deall a datblygu eich cynulleidfaoedd’ ac ‘Ymgysylltu gyda’ch defnyddwyr a gwella eu profiad’.
  • I ddangos i ymwelwyr beth yw eich gwerthoedd
    Gallwch ddefnyddio ein logo yn eich safle i ddangos eich ymrwymiad i fod yn gyfeillgar a chroesawgar.
  • Fel fframwaith ar gyfer gwella
    Gallwch ddewis pwyntiau penodol o’r Maniffesto i ganolbwyntio eich gwaith arnynt.
  • I hyrwyddo eich amgueddfa i deuluoedd
    Gallwch ddefnyddio ein logo ar eich gohebiaeth at deuluoedd sy’n ymweld; mae’n ffordd wych o ddweud wrth y gynulleidfa hon bod eich safle’n lle da i deuluoedd cyn iddynt ddod i ymweld.
  • Fel dogfen eirioli
    Gallwch ddefnyddio’r Maniffesto i ddangos bod angen ymwreiddio agwedd groesawgar i deuluoedd ar draws eich sefydliad.

Sut ydw i’n cofrestru?

Mae’n syml! Llenwch y ffurflen ar waelod y dudalen Manifesto Saesneg.

Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn cofrestru?

Byddwn yn anfon e-bost atoch i roi gwybod i chi bod eich cofrestriad wedi llwyddo ac yn eich ychwanegu at ein map ar-lein.

Byddwn hefyd yn anfon logo atoch i’w ddefnyddio yn eich gohebiaeth allanol.