Established by charity Kids in Museums, Takeover Day is when museums, historic homes, galleries, libraries and archives invite young people in to work alongside staff and take over jobs normally done by adults.

From Conwy to Cardiff, keep your eyes peeled for toddler curators, teenage tour guides, primary school press officers and secondary school CEOs. Over 500 young people and 25 heritage organisations will be taking part on 15 November.

Supported by the Welsh Government, Kids in Museums launched Takeover Day Wales in 2012 to help historic institutions give children meaningful roles in their organisations. Last year, over 139 heritage sites and almost 4,000 young people took part across England and Wales.

Lord Elis-Thomas, Minister for Culture, Tourism and Sport, said: “I’m delighted that we’re able to support Takeover Day and that the initiative has been going from strength to strength. This is a great way to spark young peoples’ interest in our heritage and culture. I hope that they make many memories from experiences they have on Takeover Day – which may well influence a future career path and make them champions for our culture and heritage. The enthusiasm and energy young people bring to a museum, gallery or archive benefits everyone – and they can often open our eyes to look at something differently.”

Here are just a few of events happening when kids are in charge this year:

  • Big Pit National Coal Museum – Local school children will learn how to make clay poppies for Remembrance Day, and then share their skills with residents from The Arthur Jenkins Residential Home.
  • Glamorgan Archives – Students from Trinity Fields School in Ystrad Mynach will completely take over the archives, from welcoming visitors and posting on social media, to cataloguing and digitising items from the collection.
  • National Museum Cardiff – Local pupils will explore the museum using augmented reality and feedback on how the museum could use the technology in the future.
  • Pontio Arts and Innovation Centre – Young people will run the technical rehearsal of balletLORENT show, Rumpelstiltskin on the Theatr Bryn Terfel Stage at Pontio. Children will not only perform on stage, but learn about the lighting, sound and stage crews’ work to ensure the performance goes smoothly.
  • St Fagans National Museum of History – Year 5 and 6 pupils will give guided tours of the new galleries at recently opened St Fagans, highlighting some of their favourite exhibits.

Look out for ‘I’m Taking Over’ stickers and ‘We’re Being Taken Over’ posters on organisations’ front doors. To see which museums are taking part near you, take a look at our online map.

You can follow the conversation on social media by using the hashtag #TakeoverDay and following @KidsInMuseums. kidsinmuseums.org.uk/takeoverdaywales

If you’d like more information, or would like to visit a Takeover Day event, please contact Jocelyn Murdoch via [email protected] or call 020 3096 7707.

 

Notes to Editors

For more information, please contact Jocelyn Murdoch at Kids in Museums on [email protected] / 0203 096 7707.

About Kids in Museums

We are an independent charity dedicated to making museums open and welcoming to all children, young people and families. We support and champion family friendly organisations through wide-ranging initiatives, including the Family Friendly Museum of the Year Award and Takeover Day. We invite heritage organisations to sign up to our Manifesto, which sets out simple guidelines for making museums easy to reach for all ages. www.kidsinmuseums.org.uk

Find us on Twitter, Facebook and Instagram.

 

Plant yn meddiannu amgueddfeydd Cymru

Os byddwch yn mynd i amgueddfa Dydd Iau, peidiwch â synnu os gwelwch chi rywbeth annisgwyl! Dydd Iau 15 Tachwedd yw’r Diwrnod Meddiannu, pan fydd llawer o amgueddfeydd a safleoedd treftadaeth yng Nghymru’n cael eu rhedeg gan blant.

Sefydlwyd y Diwrnod Meddiannu gan yr elusen Kids in Museums i roi’r cyfle i amgueddfeydd, cartrefi hanesyddol, orielau, llyfrgelloedd ac archifau wahodd pobl ifanc i mewn i weithio ochr yn ochr â staff a gwneud y swyddi y mae oedolion yn eu gwneud fel arfer.

O Gonwy i Gaerdydd, cadwch eich llygaid yn agored i weld plant bach yn ofalwyr orielau, tywyswyr teithiau sydd yn eu harddegau, swyddogion y wasg o’r ysgol gynradd a Phrif Swyddogion Gweithredol o’r ysgol uwchradd. Bydd mwy na 500 o bobl ifanc a 25 o sefydliadau treftadaeth yn cymryd rhan ar Dachwedd y 15fed.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, lansiodd Kids in Museums Ddiwrnod Meddiannu Cymru yn 2012 i helpu sefydliadau hanesyddol i roi rolau defnyddiol a phwysig i blant. Y llynedd, bu mwy na 139 o safleoedd treftadaeth a bron i 4,000 o bobl ifanc yn cymryd rhan ledled Cymru a Lloegr.

Meddai’r Arglwydd Elis-Thomas, y Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon: “Rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu cefnogi’r Diwrnod Meddiannu a bod y fenter wedi mynd o nerth i nerth. Mae hon yn ffordd wych o sbarduno diddordeb pobl ifanc yn ein treftadaeth a’n diwylliant. Gobeithio y byddent yn creu atgofion lu o’r profiadau a gânt yn ystod y Diwrnod Meddiannu – profiadau a fydd yn dylanwadu o bosib ar eu llwybrau gyrfaol yn y dyfodol ac yn eu hannog i gefnogi ein diwylliant a’n treftadaeth. Mae’r egni a’r brwdfrydedd sydd gan y plant a ddaw i amgueddfa, oriel neu archif o fudd i bawb – ac yn aml iawn gallent agor ein llygaid i edrych ar bethau mewn ffordd wahanol,”

Dyma rai o’r mannau sy’n pasio’r awenau i’r plant eleni:

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru – Bydd plant ysgol lleol yn dysgu sut i wneud pabïau clai ar gyfer Dydd y Cofio, ac yna’n rhannu eu sgiliau gyda thrigolion Cartref Preswyl Arthur Jenkins.
  • Archifau Morgannwg – Bydd myfyrwyr o Ysgol Caeau’r Drindod yn Ystrad Mynach yn meddiannu’r archifau’n gyfan gwbl, o groesawu ymwelwyr a phostio ar y cyfryngau cymdeithasol, i ddigido a chynnal rhestr o eitemau’r casgliad.
  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd – Bydd disgyblion lleol yn archwilio’r amgueddfa gan ddefnyddio realiti estynedig a sylwadau am y ffordd y gallai’r amgueddfa ddefnyddio technoleg yn y dyfodol.
  • Canolfan Gelfyddydau ac Arloesi Pontio – Bydd pobl ifanc yn rheoli ymarferiad technegol sioe balletLORENT, Rumpelstiltskin ar Lwyfan Theatr Bryn Terfel yn Pontio. Bydd y plant nid yn unig yn perfformio ar y llwyfan, ond byddent hefyd yn dysgu am y goleuo, y sain a gwaith criw’r llwyfan i sicrhau bod y perfformiad yn mynd yn llyfn.
  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru – Bydd disgyblion Blwyddyn 5 a 6 yn tywys teithiau o amgylch yr orielau a agorwyd yn ddiweddar yn Sain Ffagan, gan dynnu sylw at rai o’u hoff arddangosion.

Chwiliwch am y sticeri ‘Rwy’n meddiannu’ a’r posteri ‘Wedi’n Meddiannu’ ar ddrysau blaen gwahanol sefydliadau. I weld pa amgueddfeydd sy’n cymryd rhan yn eich ardal chi, edrychwch ar ein map ar-lein.

Gallwch ddilyn y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio’r hashnod #TakeoverDay a dilyn @KidsInMuseums. kidsinmuseums.org.uk/takeoverdaywales

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech ymweld â digwyddiad Diwrnod Meddiannu, cysylltwch â Jocelyn Murdoch drwy anfon neges e-bost i [email protected] neu ffoniwch 020 3096 7707.

 

Nodiadau i’r Golygyddion

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Jocelyn Murdoch yn Kids in Museums ar [email protected] / 0203 096 7707.

Manylion am Kids in Museums

Rydym yn elusen annibynnol sy’n gweithio i wneud amgueddfeydd yn fannau agored a chroesawgar i bob plentyn, person ifanc a theulu. Rydym yn cefnogi ac yn hyrwyddo sefydliadau sy’n croesawu teuluoedd drwy gynnal mentrau eang, yn cynnwys Gwobr Amgueddfa’r Flwyddyn sy’n Croesawu Teuluoedd a’r Diwrnod Meddiannu. Rydym yn gwahodd sefydliadau treftadaeth i gofrestru ar gyfer ein Maniffesto, sy’n rhoi canllawiau syml ynglŷn â gwneud amgueddfeydd yn fannau hawdd eu cyrraedd i bob oedran. www.kidsinmuseums.org.uk

Dewch o hyd i ni ar Twitter, Facebook ac Instagram.